SL(5)357 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Cefndir a Diben
Gwneir yr offeryn hwn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017. Mae'r offeryn yn diwygio (yn Rhan 2) y ddwy set honno o Reoliadau o fewn 21 diwrnod i'w gosod ac, felly, cyn y Diwrnod Ymadael. Gwneir y rheoliadau hyn o dan ddarpariaethau Deddf 1972. Maent yn cyflwyno cyfeiriadau at yr AEE a'r Swistir.
Yna, mae'r offeryn yn gwneud diwygiadau pellach i'r ddwy set honno o Reoliadau (yn Rhan 3) a fydd yn dod i rym ar y diwrnod ymadael. Gwneir y rheoliadau hyn o dan ddarpariaethau Deddf 2018.
Mae'r darpariaethau'n gwneud newidiadau technegol i sicrhau y bydd y ddwy set o Reoliadau sy'n cael eu diwygio yn parhau i gael eu gweithredu yng Nghymru ar ôl i'r DU adael yr UE.
Gweithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
O ran Rheol Sefydlog 21.2(vii), mae'r testun Cymraeg yn rhifo'r Rheoliadau yn anghywir o 2-6 (yn hytrach na'u rhifo o 1-5). Ymhellach, ar ddiwedd Rheoliad 17, yn y testun Cymraeg, mae-
“(c)”
Gwall teipograffyddol yw hwn mae'n amlwg.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii).
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad ar gyfer sifftio yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Cytunodd y Pwyllgor mai gweithdrefn y penderfyniad negyddol yw’r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
8 March 2019